Croeso i Wise Cymru
Mae Wise Cymru yn gydweithrediad o sefydliadau o’r sector addysg sy’n gweithio i greu diwylliant o bartneriaeth ystyrlon rhwng addysgwyr, undebau myfyrwyr a myfyrwyr ledled Cymru.
Mae Wise Cymru’n herio’r sefyllfa gyfredol, creu cyfleoedd i ymarferwyr yng Nghymru i rannu ymarfer gorau, ac yn bwysicaf oll, rhoi llais myfyrwyr ar y cyd yn ganolog i’r hyn rydym yn ei wneud.
Newyddion

Diweddariad!
Mae llawer wedi digwydd ers ein diweddariad diwethaf! Felly dyma grynodeb cyflym o’r hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Penododd Wise Cymru Gadeirydd newydd i’r Grŵp Llywio yn 2017. Mae’n bleser gennym groesawu Claire Morgan o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i’r grŵp. Rydym wedi cwblhau’r gwaith ar brosiectau Canllawiau […]

Mae Wise Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd i’w bwyllgor llywio…
Mae Wise Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd i’w bwyllgor llywio. Pwyllgor llywio Wise Cymru sy’n gyfrifol am fonitro a chynghori ar waith y prosiect gydol y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth ac am gopïau o ddogfennau megis Adroddiad Blynyddol Wise Cymru 2015/16 a throsolwg o waith y prosiect yn 2016/17, cysylltwch â Jessica Rumble drwy […]

I fod Cynrychiolwr Cwrs
Yn y brifysgolion ar draws Gymru, mae cynrychiolwyr cwrs a myfyrwir yn gael ei ethol ac hyfforddi i sicrhau gall y myfyrwyr, ac y sefylliadau lle mae nhw’n mynd i, gweithio gyda’n gilydd, yn rhoi y llais y myfyrwyr yn y calon o’r datblygiad o’r sector addysg yng Nghymru. Mae’n gwaith pwysig iawn i gynrychioli […]
Prosiectau Cyfredol
Mae Wise Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar nifer o brosiectau sydd â’r nod o sicrhau bod myfyrwyr yn chwarae rôl gadarnhaol a chynhyrchiol yn natblygiad y sector addysg yng Nghymru.
Adnoddau
Mae Wise Cymru’n gweithio ynghyd â phartneriaid ar draws AB ac AU yng Nghymru i sicrhau bod llais myfyrwyr i’w glywed a’i fod yn chwarae rhan lawn ym mhob agwedd o sector addysg Cymru.