Prosiect Addysg Bellach 2015-18
Cwblhau’r Prosiect
Ariannwyd y prosiect, Canllawiau Partneriaeth ar gyfer AB, gan Lywodraeth Cymru, a’r nod oedd helpu creu strwythur cenedlaethol i gynnig cefnogaeth bellach i lais y dysgwr yn sefydliadau Cymru. Mae’r prosiect wedi’i gwblhau gyda chyhoeddi adroddiad cryno ac adnoddau sy’n darparu argymhellion ar gyfer gwelliannau i weithgaredd llais dysgwyr. Mae naill a’r llall i’w gweld isod.
Ysgrifennwyd yr adroddiad a’r adnoddau ar sail gwerthuso data a gasglwyd o gyfweliadau a gynhaliwyd mewn sefydliadau AB ledled Cymru. Deilliant arall y cyfweliadau hyn oedd adroddiadau unigol a anfonwyd yn uniongyrchol at y sefydliadau.
Mae’r adroddiad cryno isod yn rhoi dadansoddiad manwl o arfer da a meysydd sydd angen eu gwella mewn ystod o feysydd llais dysgwyr, megis ymgysylltiad dan arweiniad y coleg a dysgwyr, dinasyddiaeth a chyfoethogi, ac ymrwymiad ac adnoddau.